Cynulliad Cenedlaethol Cymru - y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiabetes

Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac yna gyfarfod arferol a gynhaliwyd ar ddydd Mawrth 10 Chwefror 2015 yn Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel

 

Yn bresennol

Jenny Rathbone AC (Cadeirydd)

Jeff Cuthbert AC

John Griffiths (Aelod lleyg)

Julia Platts (Arweinydd Clinigol Cenedlaethol)

Elaine Hibbert-Jones (Cymdeithas Ddeieteg Prydain)

Gwenllïan Griffiths (Deryn)

Camilla Horwood (Novo Nordisk)

Julia Coffey (Johnson & Johnson)

Alex Locke (Johnson & Johnson)

Becky Reeve (Sanofi)

Nicola Davies-Job (RCN)

Angela Magny (Roche Diabetes Care)

Ken Irwin (Roche Diabetes Care)

Jason Harding (Diabetes UK Cymru)

Dai Williams (Diabetes UK)

Pip Ford (Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi)

Robert Koya Rawlinson (Novo Nordisk)

Greg Titley (Aelod Lleyg)

David Chapman (yn cynrychioli Medtronic)

Ros Meek (Medtronic)

Robert Wright (Aelod lleyg)

Helen Cunningham (Swyddfa Jenny Rathbone AC)

Jonathan Hudson (AstraZeneca)

           

Ymddiheuriadau

Darren Millar AC

Dr Sarah Davies (Canolfan Feddygol Woodlands, Caerdydd)

Lesley Jordan (Input)

Wendy Gane (Cymorth gan Eraill sydd â Diabetes)

Hugh Thomas (Fferylliaeth Gymunedol Cymru)

Dr Lindsay George (Arweinydd Clinigol, Diabetes, Ysbyty Llandochau)

Steve Bain (Prifysgol Abertawe)

Penny Griffiths (Cymorth gan Eraill sydd â Diabetes)

Yvonne Johns (Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes Gogledd Cymru)

David Miller-Jones (Cymdeithas Diabetes mewn Gofal Sylfaenol)

Scott Cawley (Podiatreg Cymru Gyfan)

Helen Nicholls (Cymdeithas Ddeieteg Prydain)

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

i)     Adroddiad blynyddol a datganiad ariannol

Rhoes Jenny Rathbone drosolwg o'r adroddiad blynyddol a'r datganiad ariannol yr oedd aelodau'r grŵp wedi cael copïau ohonynt. Derbyniwyd y ddau fel cofnodion cywir

ii)    Ethol swyddogion

Rhoes Jenny Rathbone y gorau i rôl y Cadeirydd a chadeiriwyd gweddill y cyfarfod gan Jason Harding. Etholwyd Jenny Rathbone yn Gadeirydd drachefn ac etholwyd Helen Cunningham yn Ysgrifennydd drachefn.  Cytunwyd mai Diabetes UK Cymru fyddai’n parhau i fod y prif sefydliad cefnogaeth.

Cyfarfod Cyffredinol

1.    Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf fel cofnod cywir ac nid oedd unrhyw newidiadau

 

2.    Archwiliad Diabetes Cenedlaethol ac Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes

 

Rhoes Jason Harding adroddiad ysgrifenedig i'r grŵp ar yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol ac Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes.

 

i)     Archwiliad Diabetes Cenedlaethol

Dangosodd yr archwiliad fod nifer sylweddol o bobl yn dal yn methu eu targedau HBA1C. Mae gorgynrychiolaeth o ran y bobl sydd â diabetes a dderbynnir i'r ysbyty â strôc neu gyflyrau'r galon.

 

ii)    Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes

Dangosodd Adroddiad Blynyddol Law yn Llaw at Iechyd (Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes) fod cyfraddau marwolaeth a derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys wedi gostwng. Mae'r achosion sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes yn parhau i godi ac mae diabetes ar 182,000 o bobl ar hyn o bryd. Dywedodd Jason wrth y grŵp mai tri bwrdd iechyd yn unig a oedd wedi rhyddhau eu hadroddiadau blynyddol. Cytunwyd ar bwynt gweithredu i ysgrifennu at y pedwar bwrdd iechyd arall yn gofyn pam na ryddhawyd eu hadroddiadau hwy.

 

Awgrymodd Pip Ford y dylai Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes fod hefyd yn cysylltu mwy â chynlluniau cyflawni cenedlaethol eraill a bod hynny efallai yn fater i Chris Jones.

 

Gofal Glwcos - Dywedodd Jason wrth y grŵp ei bod yn ymddangos bod ysbytai lle mae Gofal Glwcos ar waith yn perfformio'n well nag ysbytai eraill, a gallai hyn fod yn ddadl dros wneud hyn ledled Cymru. Soniodd hefyd mai ychydig o waith ataliol a wnaed, felly bydd yn ddiddorol gweld ymateb Cymru i'r gwaith ataliol sy'n digwydd yn Lloegr. Holodd Jeff Cuthbert a godwyd y mater hwn gyda'r Gweinidog a chadarnhaodd Jason y byddai cyfarfod â Vaughan Gething ar 24 Chwefror.

 

System Rheoli Data Electronig  - ychwanegodd Jason nad oedd yn glir a gafwyd caniatâd ar gyfer system rheoli data electronig eto. Ychwanegodd Julia Platts fod materion cymhleth o ran arian a strwythur, a'r system fwyaf cost effeithiol yw'r un y chwilir amdani, a bod hynny yn ei dro yn golygu bod angen cynllun busnes. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) hefyd wedi bod yn edrych ar y mater. Dywedodd Dai wrth y grŵp fod Sky DC yn ei gwneud ers 10 mlynedd yn yr Alban.

 

Addysg am Ddiabetes -  Dywedodd Robert Wright fod diabetes yn flaenoriaeth, ac eto mae'n ymddangos fel bod pethau ar ei hôl hi oherwydd cyfyngiadau ariannol. Soniodd Jason fod amrywiaeth yn y byrddau iechyd. At ei gilydd, mae'r addysg strwythuredig a ddarperir yng Nghymru ar lefel gymharol isel, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hynny ac mae'r Grŵp Gweithredu Diabetes yn rhoi sylw i'r mater. Ychwanegodd Dai Williams fod adborth da am y llyfryn ar gyfer pobl sydd newydd gael diagnosis, a ddatblygwyd gyda Chymdeithas Ddeieteg Prydain ac AstraZeneca.

 

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â mynediad at addysg i weithwyr proffesiynol a gofal sylfaenol yn benodol. Cadarnhaodd Julia Platts fod amrywiaeth. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae ymgynghorwyr yn mynd allan i ofal sylfaenol ac yn gwella eu sgiliau. Mae ardaloedd gwledig yn fwy hunanddibynnol. 

 

3) Gofal Iechyd Darbodus

 

Cododd Jenny Rathbone y pwnc ac esboniodd gefndir y cysyniad, gan gynnwys y syniad y dylid rhoi'r gorau i bethau ym myd gofal iechyd nad ydynt o fudd neu sy’n gwneud niwed mewn gwirionedd, gyda'r rhai sy'n darparu gofal yn gwneud hynny ar y lefel gywir gan ddefnyddio'r sgiliau cywir. Ychwanegodd Robert Koya-Rawlinson fod y mantra o "ddim byd amdanaf i hebof i" ac egwyddorion cyd-gynhyrchu yn berthnasol i ofal iechyd darbodus.

 

Dywedodd John Griffiths fod cyfle yn y DU i gynyddu rôl darparwyr iechyd galwedigaethol trwy gael staff i fonitro eu hiechyd, fel sy'n digwydd yn UDA. Ychwanegodd Jason Harding fod goblygiadau iechyd darbodus ar gyfer cleifion diabetes yn gallu golygu y bydd hunanreoli yn dod yn fwy pwysig i gleifion.

 

Dywedodd Julia Platts wrth y grŵp i ofal iechyd darbodus gael ei ymgorffori yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol. Yn wir, mae a wnelo fwy â gofal lle mae'r pwyslais ar yr unigolyn yn hytrach na'r canllawiau. Mae addysg i gleifion, Gofal Glwcos, a Sky DC ill tri yn hyrwyddo gofal iechyd darbodus.

 

Soniodd Robert Wright, Pip Ford a Dai Williams am gynlluniau gofal ar y cyd, e-adnoddau a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth sydd un ac oll yn fathau ar ofal iechyd darbodus y gellir eu datblygu ymhellach.

 

Cam i’w gymryd: Y Grŵp Trawsbleidiol i ysgrifennu at Fyrddau Iechyd sydd heb gyhoeddi eu hadroddiadau blynyddol

 

4) Grŵp Gweithredu Diabetes - Julia Platts

 

Cyfarfu'r grŵp ddiwedd mis Ionawr ac mae'n bwrw ymlaen â'r blaenoriaethau a drafodwyd yn flaenorol.

 

Gwaith Ataliol  - Dywedodd Julia wrth y cyfarfod fod llawer o waith eto i'w wneud. Mae'r grŵp yn gweithio gydag arbenigwyr TG er mwyn tynnu sylw pan fydd pobl mewn perygl o gael diabetes, ac mae'n dod â mentrau sydd eisoes ar gael ynghyd.

Gofal - Mae gan Gymru y canlyniadau gwaethaf ar gyfer gofal cleifion mewnol ac amseroedd meddyg-nyrs a gwallau. Mae angen bellach i'r grŵp greu cynllun a chynnal cyfarfod cenedlaethol ac ystyried rhoi Sky DC ar waith

Gofal traed - Ddiwedd mis Chwefror, disgwylir ymateb gan bob bwrdd iechyd ar yr holiadur gofal traed gawsant. Trwy hyn, bydd diffygion yn cael eu nodi a bydd hynny’n helpu i ffurfio'r cynllun gweithredu

Hyfforddiant ac Addysg -  Mae'n cymryd tua blwyddyn i sefydlu'r cwrs DAFNE (Addasu Dosau er mwyn Bwyta'n Arferol) a'i gael yn weithredol. Mae'r grŵp yn edrych ar waith byrddau iechyd eraill yn hyn o beth

 

 

5)    Unrhyw Fater Arall, gan gynnwys dyddiad y cyfarfod nesaf

Y wybodaeth ddiweddaraf gan yr is-grwpiau -  Rhoes Jason Harding gopïau ysgrifenedig o'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddau is-grŵp

 

Peter Baldwin -  Dywedodd Dai wrth y grŵp am Peter Baldwin, y bachgen 13.5 oed a fu farw'n ddisyfyd o ddiabetes math 1. Mae ei rieni wedi lansio apêl i godi ymwybyddiaeth am ddiabetes math 1, a gofynnodd Dai i'r grŵp fwrw golwg ar yr apêl a'i chefnogi.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf: Dydd Mawrth 19 Mai